LLETY
8 Pabell breswyl fawr gyda lle i hyd at 20 ymhob un mewn podiau unigol llai i 2 berson.
Mae gan y pebyll ychwanegiadau moethus fel trydan, goleuadau a gofod mawr i wisgo neu gymdeithasu mewn tywydd garw. Er mai gwersylla ydy hyn, mae’n wersylla sy’n cynnwys holl fanteision canolfan wyliau.
BWYTA a’r GEGIN
Mae Middle Park yn ganolfan hunanarlwyol, felly bydd gofyn ichi ddarparu eich cogyddion a’ch bwyd eich hunain. Mae yma gegin arlwyo broffesiynol wedi’i chyflenwi’n dda at eich defnydd, yn ogystal â chyfleusterau diwydiannol i olchi llestri.
Mae’r gegin yn agor allan i’n pabell fwyta fawr sy’n dal 200 o bobl yn rhwydd.
CAWODYDD a THOILEDAU
6 chawod drydan i’r ddau ryw i ganiatáu preifatrwydd wrth ymolchi’n ddyddiol neu gael cawod wedi chwaraeon dŵr ar y llyn. Mae ein tanc storio 20,000L yn golygu nad fydd prinder dŵr na diffyg pwysedd dŵr yn y gwersyll.
Mae yma hefyd bloc toiledau gyda chyfleusterau ymolchi dŵr poeth. Mae’r bloc yn cynnwys cyfleusterau eang gyda mynediad trwy ramp i unrhyw un sydd ag anableddau.
Mae ystafell ddillad yma hefyd, gyda 2 beiriant golchi a sychwr masnachol.
Y SGUBOR
Mae’r Sgubor yn adeilad parhaol amlddefnydd gydag ardal cegin lawn. Gellir defnyddio’r man hwn ymhob tywydd ar gyfer y gwersyll cyfan gyda waliau symudol. Neu mae modd ei rannu yn siop pethau da a neuadd i dros 200 o ieuenctid. Os ydy’r tywydd yn caniatáu, gellir symud y wal gyfan allan o’r ffordd i wneud lle ar gyfer dawnsfeydd neu weithgareddau gyda’r hwyr yng nghoedlannau prydferth Middle Park.
MAES GWERSYLLA
Mae gan Middle Park gae mawr sy’n addas ar gyfer gwersylla os ydy hi’n well ganddoch chi ddod â’ch pebyll eich hunain.
Gellir ei ddefnyddio hefyd ar gyfer gemau a gweithgareddau awyr agored.