top of page
Middle Park Logo.png

Y BLOB

Y Blob ydy’r uchafbwynt i lawer o ymwelwyr â gwersyll Middle Park. Yn gyntaf, mae gofyn ichi neidio o lwyfan ar degan gwynt mawr sy’n gorwedd ar y llyn. Wedi symud ar hyd y Tegan, mae’n rhaid ichi eistedd ar y pen a dal yn dynn, yn aros i’r ‘blobiwr’ neidio o’r llwyfan ar ben arall y blob. Yn ddisymwth, dyma chi’n cael eich hyrddio i’r awyr gan ddisgyn yn sydyn i’r dŵr gyda sblash. Fe fydd rhuthr mawr o adrenalin yn llifo trwyddoch chi wrth gael y teimlad eich bod yn hedfan!

LLITHREN DDŴR

Neidiwch ar gorff-fwrdd a llithro i lawr ein llithren ddŵr 100m i’r llyn ar y gwaelod. Dyma ffefryn arall ymysg ein hymwelwyr.

ADEILADU RAFFT

Gweithgaredd meithrin tîm gwych lle mae grwpiau’n gorfod gweithio gyda’i gilydd i adeiladu eu raft cyn herio’r tîm arall i ras ar draws y llyn. Os nad ydy eich raft yn ddigon da, rydych chi’n sicr o wlychu!

WAL DRINGO

Yn ychwanegiad newydd yn 2018, mae ganddon ni bellach ein wal ddringo 15m ein hunain. Gyda gwahanol lefelau i’ch herio, mae’n cynnig cyfle gwych i bob oed a gallu. Os gyrhaeddwch y top, fe gewch olygfeydd hyfryd ar draws y dyffryn.

CWRS RHWYSTRAU

Ychwanegiad newydd arall yn 2018. Mae ein cwrs rhwystrau yn cynnig cyfres o heriau corfforol i’ch grŵp eu goresgyn. O ddringo dros rwyd sgramblo i blymio i’r dŵr ac o dan drawst tanddwr, dyma gyfle i feithrin tîm a goresgyn ofnau.

CANŴIO a CAIACIO

Medrwn gynnig sesiynau chwarae ar y llyn lle gaiff eich grŵp ddysgu rhai sgiliau tra’n cael hwyl yn chwarae gemau. Medrwn hefyd gynnig teithiau byr ar hyd y gamlas i grwpiau sydd am roi eu sgiliau ar waith dros bellter hirach. 

SAETHYDDIAETH

Gweithgaredd gwych i bobl o bob oed a gallu. Cewch ddysgu sut i lwytho saeth a’i saethu’n ddiogel a gweld faint o weithiau fedrwch chi daro’r aur.  

Mae ein holl weithgareddau’n ddibynnol ar fod hyfforddwyr a chyfarpar ar gael. Mae ein holl weithgareddau’n cael eu cynnal gan staff sydd â’r cymwysterau a’r profiad priodol ac mae sicrwydd yswiriant perthnasol a rheoliadau trwyddedu mewn grym.

bottom of page