top of page
Croeso i Middle Park
Mae Gwersyll Antur Awyr Agored Middle Park wedi’i leoli mewn llecyn bryniog paradwysaidd ar diroedd Stâd Castell Powis ger Y Trallwng yng nghanolbarth Cymru. Oherwydd ei leoliad delfrydol a’r cyfleusterau gwych, mae’n fan perffaith i gynnal eich Gwersyll Ieuenctid, Gwyliau Eglwys, Wythnos Gweithgareddau Ysgol, Grŵp Gwobr Dug Caeredin, Diwrnod Gweithgareddau a mwy. Ar hyn o bryd, mae Middle Park yn agored ar gyfer prif dymor yr haf ac yn gallu croesawu grwpiau o rhwng 50 a 200 o bobl gyda phrisiau cystadleuol a phecyn wedi’i deilwra i’ch anghenion.
bottom of page